Lleoliad:
4B Tŷ Hywel/Teams
Dyddiad: Dydd Llun, 10 Chwefror 2025
Amser:
10:00-12:30
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Pwyllgor: |
Bob Evans, Cynghorwr Annibynnol a Chadeirydd y Pwyllgor Hefin David AS, Comisiynydd y Senedd ac Aelod o'r Pwyllgor Menai Owen-Jones, Cynghorwr Annibynnol ac Aelod o’r Pwyllgor Dr Mark Egan, Cynghorwr Annibynnol ac Aelod o'r Pwyllgor |
|
Eraill: |
Yr Athro Uzo Iwobi, Cynghorwr Annibynnol |
|
Staff y Comisiwn: |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd, a'r Swyddog Cyfrifyddu Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau’r Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Mathew Richards, Cyfarwyddwr Dros Dro Busnes y Senedd Lisa Bowkett, Prif Swyddog Cyllid Lee Glover, Cyfarwyddwr, Validera a Phennaeth Archwilio Mewnol (eitemau 1-10) Clare Thomas, Archwilio Cymru (eitemau 1-10) Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl Kathryn Hughes, Clerc y Pwyllgor a Rheolwr Risg, Parhad Busnes a Llywodraethu Buddug Saer, Dirprwy Glerc y Pwyllgor Phil Boshier, Pennaeth Llywodraethu Dros Dro Mark Neilson, Pennaeth TGCh a Darlledu (eitem 2) Nicky Morgan, Pennaeth Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau Dros Dro (eitem 12) James Herman, Pennaeth Dros Dro Rheoli Cyfleusterau - Gwasanaethau Caled a Phrosiectau (eitem 12) Eve Jennings, Uwch-reolwr Prosiectau TGCh (Eitem 16) Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol (eitem 18) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, gan gynnwys Lisa Bowkett i’w chyfarfod cyntaf fel Prif Swyddog Cyllid. Cafwyd un ymddiheuriad, gan Aled Eirug.
2.0 ARAC (25-01) Papur 1 - Cofnodion Drafft 18 Tachwedd 2024
ARAC (25-01) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd
ARAC (25-01) Papur 3 – Fframwaith Asesu Seiber
ARAC (25-01) Papur 4 – Adolygiad Porth Bae 32, Camau Gweithredu Cam 2
2.1 Cafodd cofnodion cyfarfod mis Tachwedd eu cymeradwyo a byddant yn cael eu cyhoeddi. Roedd yr amserlen weithredu wedi'i diweddaru gyda chamau gweithredu a oedd yn weddill naill ai wedi'u cwblhau neu wedi'u cynnwys ar yr agenda.
2.2 Gwahoddodd y Cadeirydd Mark Neilson i gyflwyno'r papur yn amlinellu manylion y Fframwaith Asesu Seiber (FfAS) a gwahoddodd gwestiynau gan y Pwyllgor. Disgrifiodd Mark berthnasedd y fframwaith i'r sefyllfa seneddol. Esboniodd fod y FfAS yn darparu dull strwythuredig a fframwaith y gallai archwilwyr ei ddefnyddio i asesu proses reoli risgiau seiber. Nododd hefyd fod deddfwrfeydd eraill yn mabwysiadu’r defnydd ohono ac y byddai hynny'n feincnod defnyddiol ar gyfer cymharu.
2.3 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, esboniodd Mark y byddai asesiad annibynnol yn digwydd ar ffurf archwiliad mewnol, gyda chanllawiau pellach yn cael eu ceisio gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Cytunodd i roi gwybod i'r Pwyllgor am unrhyw ddatblygiadau.
3.0 ARAC (25-01) Papur 5 – Strategaeth Archwilio Mewnol 2024-25 i 2026-27
3.1 Cyflwynodd Lee Glover y strategaeth archwilio mewnol tair blynedd, a adolygwyd gan y Pwyllgor ym mis Mai 2024, fel cyfle ar gyfer mewnbwn tuag at gadarnhau cynllun 2025-26.
3.2 Ni nododd y Pwyllgor unrhyw archwiliadau penodol i'w hychwanegu at y strategaeth tair blynedd. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch unrhyw archwiliad dilynol o barhad busnes, a oedd heb ei gynnwys yn y strategaeth, rhoddodd swyddogion ddiweddariad byr ar y cynnydd tuag at gwblhau cynllun parhad busnes corfforaethol a rhaglen waith. Byddai hyn yn cynnwys profion pellach ar gynlluniau parhad busnes, a’r rheini wedi'u llywio gan ymarfer helaeth a gynhaliwyd yn yr hydref.
3.3 Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Pwyllgor, rhoddodd Lee sicrwydd y byddai'r strategaeth a'r cynlluniau yn rhoi prawf ar effeithiolrwydd rheolaethau ac y byddent yn cael eu hadolygu a'u haddasu i gymryd risgiau sy'n dod i'r amlwg i ystyriaeth.
4.0 ARAC (25-01) Papur 6 – Adroddiad Cynnydd ar Archwilio Mewnol – Ionawr 2025
4.1 Amlinellodd Lee y cynnydd a wnaethid yn erbyn cynllun archwilio mewnol 2024-25 a’r amcanion allweddol a’r amserlenni ar gyfer yr archwiliadau sydd i ddod.
4.2 Gwnaeth aelodau'r Pwyllgor sylwadau ar nifer yr archwiliadau sydd i'w cynnal yn y misoedd nesaf. Cydnabu Lee fod y cynllun wedi'i ôl-lwytho ac atgoffodd y Pwyllgor i'r dewis amserlenni gael eu pennu gan y rheolwyr, a bod y rheini wedi ystyried pryd y gallai'r archwiliadau ychwanegu'r gwerth mwyaf. Trafododd y Pwyllgor yr heriau posibl sy’n gysylltiedig â’r dull hwn, yn enwedig yr effaith o ran adnoddau ar swyddogion, a’r angen i ganiatáu amser i aelodau’r Pwyllgor graffu’n briodol ar adroddiadau archwilio. Rhoddodd Lee sicrwydd i’r Pwyllgor fod mesurau ar waith i reoli’r heriau hyn er mwyn sicrhau bod yr archwiliadau’n cael eu cynnal yn effeithiol.
4.3 Cytunodd y Pwyllgor ar yr angen i gylchredeg adroddiadau archwilio mewnol yn amserol, gan gynnwys y tu allan i'r Pwyllgor gyda chyfle i drafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Camau i’w cymryd
· Cynnwys Cynllun Archwilio Mewnol 2025-26 fel eitem ar agenda cyfarfod mis Mai
· Darparu diweddariad ar gynnydd o ran datblygu a chyflawni’r rhaglen parhad busnes yng nghyfarfod mis Tachwedd 2025
Archwilio Allanol
5.0 ARAC (25-01) Papur 7 - Diweddariad Chwefror Archwilio Cymru
5.1 Rhoddodd Clare Thomas y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun archwilio allanol ar gyfer 2024-25, gan amlygu’r meysydd ffocws allweddol a’r amserlenni. Roedd y cynllun i'w gyflwyno yng nghyfarfod 9 Mai ond nodwyd y byddai’n cael ei ddosbarthu cyn gynted â phosibl. Cyfeiriwyd at y cynnydd bach yn y ffi archwilio a oedd yn adlewyrchu cynllunio ar y sail na fyddai unrhyw newidiadau sylweddol i’r gofynion cyfrifyddu. Nododd y Cadeirydd y trafodaethau parhaus ynghylch rhannu'r ffi archwilio rhwng y Comisiwn a'r gronfa bensiwn.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, amlinellodd Clare y cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer gwaith archwilio interim cynnar ac archwiliad terfynol ychydig yn ddiweddarach i sicrhau set gyflawn o gyfrifon.
Llywodraethu'r Comisiwn
ARAC (25-01) Papur 8 – Strategaeth Pennu Cyllideb
6.1 Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor i’r eitem hon gael ei chynnwys fel cyfle i ystyried proses y gyllideb. Gwahoddodd Lisa Bowkett i ddarparu adolygiad o’r cylch cyllideb blaenorol, yn ogystal â chyflwyno’r strategaeth ar gyfer cyllideb 2026-27, a amlinellwyd yn y papur.
6.2 Tynnodd Lisa sylw at y prif wahaniaethau yn y broses oherwydd y newid sylweddol yn y gyllideb yn ymwneud â Diwygio’r Senedd a’r angen i ymgysylltu mwy ag Aelodau.
6.3 Amlinellodd Hefin y ffyrdd yr oedd ef, a swyddogion, wedi ymgysylltu ag Aelodau yn ystod proses y gyllideb a oedd wedi gweithio’n dda. Roedd hyn wedi arwain at greu’r strategaeth ymgysylltu, a oedd wedi’i chynnwys yn y papur, fel ffordd o godeiddio’r dull gweithredu. Pwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltu gwleidyddol parhaus ac ymhelaethodd ar sut y byddai'r strategaeth hon yn cael ei chyflawni ar gyfer datblygu cyllideb 2026-27.
6.4 Amlinellodd Lisa’r amserlen ar gyfer paratoi cyllideb 2026-27, gan ddechrau gydag adnewyddiad o’r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig ym mis Ebrill, ac yna paratoi’r gyllideb yn fanwl rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf, a’i chwblhau dros yr haf. Tynnodd sylw hefyd at effaith rhaglenni a phrosiectau mawr, fel y rhai sy’n ymwneud â Diwygio’r Senedd a Bae 32, ar y gyllideb.
6.5 Soniodd aelodau’r Pwyllgor am y canlyniad cadarnhaol, a’r ymagwedd broffesiynol a’r strategaeth ymgysylltu sy’n cael eu mabwysiadu. Nodwyd ganddynt hefyd bwysigrwydd gwaith ymgysylltu parhaus, yn enwedig gan y byddai angen cynnydd pellach yn y gyllideb.
6.6 Gofynnodd y Cadeirydd am gael gwybod am y cynnydd gyda'r broses o bennu’r gyllideb ac i ddogfennau allweddol gael eu rhannu â'r tîm Clercio pan fyddant ar gael i'w cynnwys yn Llyfrgell Aelodau ARAC.
ARAC (25-01) Papur 9 – Adolygiad Blynyddol o Bolisïau Cyfrifyddu
7.1 Cyflwynodd Lisa Bowkett y papur a oedd yn cynnwys manylion mân newidiadau ar gyfer safonau cyfrifyddu a gofynion datgelu, fel y nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM) Trysorlys EM. Roedd y newidiadau'n ymwneud yn bennaf â phensiynau a McCloud heb unrhyw effaith sylweddol ar gyfrifon y Comisiwn.
7.2 Nododd y Pwyllgor y diweddariad, gan ddiolch i Clare amdano.
8.0 ARAC (25-01) Papur 10 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu – Chwefror 2025
8.1 Cyflwynodd Phil Boshier y papur a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch llywodraethu diweddar. Amlygodd y datblygiadau pwysig canlynol:
· Fframwaith Rheoli Risg – roedd set o ddatganiadau parodrwydd i dderbyn risg wedi cael eu cymeradwyo gan y Comisiwn. Datblygwyd y rhain gyda mewnbwn ac ymgysylltiad da gan y Bwrdd Gweithredol, uwch-swyddogion eraill a Chomisiynwyr, sydd wedi dangos lefel dda o ddealltwriaeth. Byddai'r datganiadau'n cael eu defnyddio i lywio'r broses o wneud penderfyniadau.
· Fframwaith Sicrwydd – dull diwygiedig ar gyfer casglu sicrwydd i’w gyflwyno i’r Swyddog Cyfrifyddu i lywio’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Byddai’r newidiadau’n helpu i nodi yn well unrhyw fylchau neu wendidau mewn sicrwydd ac yn caniatáu aliniad gwell â sicrwydd annibynnol, megis sicrwydd gan archwilio mewnol. Hefyd, byddai datganiad sicrwydd ar y cyd gan aelodau'r Bwrdd Gweithredol i'r Swyddog Cyfrifyddu yn cymryd lle datganiadau'r Cyfarwyddwr a luniwyd yn flaenorol.
8.2 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch y rhesymeg dros newid y dull o gasglu sicrwydd, esboniodd Phil fod hyn yn rhannol mewn ymateb i adborth a gafwyd o waith craffu aelodau ARAC ar ddatganiadau sicrwydd y Cyfarwyddwr ym mis Mawrth 2024. Roedd hyn yn cynnwys awgrymu y gallai'r datganiadau i'r Swyddog Cyfrifyddu fod yn fwy corfforaethol a thrawsbynciol. Amlinellodd Phil hefyd yr amseriadau ar gyfer cwblhau’r gwaith sicrwydd ac eglurodd y byddai’r datganiad sicrwydd corfforaethol sengl a’r dogfennau ategol yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod craffu a drefnwyd ar gyfer 24 Mawrth.
8.3 Mewn ymateb i gwestiynau pellach, rhoddodd Phil sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai'r dull casglu sicrwydd yn cael ei werthuso i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion y Swyddog Cyfrifyddu, gyda'r bwriad o'i gadw'n gymesur a sicrhau gwelliannau parhaus yn y blynyddoedd i ddod. Hefyd, amlinellodd gynlluniau i weithio gyda pherchnogion risg i fframio'r rheolaethau yn well, i egluro eu perchnogaeth ac i gynnal prawf ar gwmpas ar draws y tair llinell sicrwydd. Mewn perthynas â chwestiynau ynghylch datganiadau parodrwydd i dderbyn risg, amlinellodd Phil y camau i'w cymryd i’w rhoi ar waith a chytunodd i rannu'r datganiadau parodrwydd i dderbyn risg ag aelodau'r Pwyllgor.
Camau i’w cymryd: Phil Boshier i rannu manylion datganiadau parodrwydd i dderbyn risg ag aelodau'r Pwyllgor (papurau presennol).
9.0 Eitem lafar
9.1 Rhoddodd Arwyn Jones ddiweddariad ar y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) o’i safbwynt ef fel Cadeirydd y Grŵp Cyfleoedd AI, gan nodi ei fod hefyd yn gweithio'n agos gyda Matthew Richards, Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth a Chadeirydd y Grŵp Llywodraethu AI. Roedd y ddau grŵp yn gweithio'n dda ac roedd yr adborth a geir bob mis gan y rhai sydd â thrwyddedau i brofi CoPilot yn dangos achosion o effeithlonrwydd. Roedd yr adborth, a oedd yn ymwneud â defnydd, cynhyrchiant, hygyrchedd a llesiant, hefyd yn cael ei ddefnyddio i lywio gwelliannau i CoPilot, mewn deialog â Microsoft. Ar y cyfan, roedd dull y Comisiwn yn un gofalus ac wedi’i arwain gan egwyddorion llywodraethu ond roedd swyddogion yn cydnabod y cyfleoedd posibl y gallai AI eu cynnig.
9.2 Nododd Arwyn a Matthew ddatblygiadau o ran polisi AI y Comisiwn a rheoli risgiau, a bod gwaith ar fin dechrau ar hyfforddiant a chanllawiau ar gyfer cyflwyno nifer o drwyddedau CoPilot i grwpiau’r pleidiau. Cytunodd Arwyn i rannu rhagor o fanylion â'r Pwyllgor ar gynigion ar gyfer defnyddio AI yn y dyfodol a oedd wedi’u cyflwyno i'r Comisiwn.
9.3 Croesawodd y Cadeirydd y datblygiadau hyn a gwahoddodd gwestiynau gan y Pwyllgor. Hefyd, gwahoddodd Clare Thomas i roi sylwadau ar y dull a ddefnyddir gan Archwilio Cymru o ran defnyddio AI. Er iddi gydnabod y potensial i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd prosesau archwilio yn sylweddol, pwysleisiodd Clare bwysigrwydd defnyddio deallusrwydd artiffisial yn ofalus, yn enwedig wrth drin data cleientiaid. Amlinellodd y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio'n gyfrifol ac yn foesegol, gyda ffocws ar gynnal diogelwch data a phreifatrwydd.
9.4 Cytunodd Validera hefyd â’r dull pwyllog sy’n cael ei fabwysiadu gan Archwilio Cymru, gan nodi’r potensial i dynnu allan themâu cyffredin ar draws amrywiaeth o archwiliadau, ond nid oedd yn gweld AI yn symleiddio prosesau pen blaen archwilio mewnol.
9.5 Roedd Arwyn am roi sicrwydd i'r Pwyllgor fod pryderon cymdeithasol yn cael eu hystyried, gan gynnwys drwy gynrychiolaeth undebau llafur ar y grŵp cyfleoedd. Ychwanegodd y byddai effeithlonrwydd a geir drwy ddefnyddio AI yn rhyddhau adnoddau i wneud mwy o waith gwerth ychwanegol, yn hytrach na chymryd lle staff. Roedd y Senedd yn arwain ar sawl agwedd ar AI a dylid canmol Mark Neilson am gydgysylltu â deddfwrfeydd eraill sydd â diddordeb yn null y Senedd ac a ystyrir yn arweinwyr yn y maes. Roedd swyddogion hefyd yn gweithio gyda Microsoft ar welliannau megis y defnydd o drawsgrifiadau a materion yn ymwneud ag adnabod y Gymraeg.
9.6 Cydnabu’r Pwyllgor y dull cadarnhaol o ddefnyddio AI a nododd y byddai’n croesawu diweddariadau yn y dyfodol ar bob agwedd ar AI.
Camau i’w cymryd: Arwyn i rannu gwybodaeth bellach (papurau presennol) ar y defnydd o AI
ARAC (24-01) Papur 11 – Torri Diogelwch Data
10.1 Cyflwynodd Matthew Richards yr adroddiad yn ystod y flwyddyn ar doriadau diogelwch data. Eglurodd y bu dau doriad cymharol fach ac nad oedd angen hysbysu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) am y naill na’r llall gan nad oeddent yn niweidio buddiannau unrhyw unigolyn i bob pwrpas.
10.2 Nododd y Pwyllgor y papur, gan ddiolch Matthew amdano.
11.0 ARAC (25-01) Papur 12 - Risgiau Corfforaethol
ARAC (25-01) Papur 12 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr o Risgiau Corfforaethol
ARAC (25-01) Papur 12 – Atodiad B - Risgiau corfforaethol a nodwyd
11.1 Adolygodd y Pwyllgor y risgiau corfforaethol, gan nodi na fu unrhyw newidiadau sylweddol ers y cyfarfod diwethaf, heblaw am ychwanegu ac yna dileu risg yn ymwneud â meddalwedd deddfwriaeth a oedd wedi cael ei datrys i raddau helaeth.
11.2 Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor, nododd swyddogion fod Rhaglen y Seithfed Senedd yn darparu mesurau lliniaru ar gyfer risgiau sy’n ymwneud â chanlyniad yr etholiad nesaf. Roedd y risg gorfforaethol ar Ddiwygio’r Senedd hefyd yn rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor am reoli risg, ac yn cynnwys manylion ynghylch cynllunio senarios. Roedd y Pwyllgor hefyd yn cael gwybodaeth yn rheolaidd gan ddangosfyrddau ar gynnydd Rhaglen y Seithfed Senedd a’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio. Awgrymodd y Cadeirydd y gellid trefnu sesiwn friffio ar y Seithfed Senedd mewn cyfarfod yn y dyfodol.
11.3 Bu'r Pwyllgor yn trafod meysydd risg i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag urddas a pharch a chapasiti. Nododd hefyd yr asesiad parhaus o risgiau yn ymwneud â chymorth y Comisiwn i Aelodau mewn ymateb i waith y Bwrdd Taliadau Annibynnol.
11.4 Nododd y Pwyllgor y diweddariadau i’r gofrestr risgiau.
12.0 Eitem lafar (yn cyfeirio at y diweddariad yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol - eitem 11)
12.1 Rhoddodd Ed Williams, Nicky Morgan a James Herman ddiweddariad ar y prosiectau ystadau, gan gynnwys gwaith yn Nhŷ Hywel a’r Siambr. Eglurwyd bod y prosiectau'n mynd rhagddynt yn dda, gyda cherrig milltir allweddol yn cael eu cyrraedd a materion yn cael sylw'n brydlon.
12.2 Drwy gydol y prosiectau, roedd James a’i dîm wedi ymgysylltu’n barhaus ag Aelodau, Penaethiaid Staff a Chadeiryddion Pleidiau drwy drefnu sesiynau galw heibio yn ystod y Cyfarfod Llawn a thrwy fynd i gyfarfodydd grwpiau, gyda’r opsiynau dylunio terfynol yn cael eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2024.
12.3 Tynnodd James sylw at rai newidiadau allweddol i’r Siambr o ran hygyrchedd ynghyd ag ystyriaethau eraill megis goleuo ac acwsteg. Nodwyd y byddai Siambr Hywel yn Nhŷ Hywel yn cael ei defnyddio yn lle Siambr y Senedd am gyfnod o naw mis o fis Ebrill 2025.
12.4 Nodwyd hefyd y byddai adeilad y Senedd yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd a bod y tîm ystadau yn gweithio'n agos gyda staff Gwasanaethau’r Pwyllgorau a staff y Gwasanaeth Ymgysylltu i darfu cyn lleied â phosibl ar staff a rhanddeiliaid eraill.
12.5 Trafododd y Pwyllgor yr angen am linellau atebolrwydd clir a diweddariadau rheolaidd ar ddatblygiadau prosiectau er mwyn sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.
12.6 Ar y cyfan, cafodd y Pwyllgor ei sicrhau gan y cynnydd a oedd yn cael ei wneud ar y prosiectau ystadau a diolchodd i bawb a gymerodd ran am eu gwaith hyd hynny.
ARAC (25-01) Papur 13 – Crynodeb o’r ymadawiadau
13.1 Nododd y Pwyllgor un achos o wyro oddi ar y gweithdrefnau caffael arferol.
Busnes Pwyllgor
14.0 ARAC (25-01) Papur 14 - Y Flaenraglen Waith
13.1 Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor, pe na bai angen ei ddefnyddio ar gyfer argymell llofnodi'r cyfrifon, y byddai’r cyfarfod ym mis Gorffennaf yn gyfle am drafodaethau llai ffurfiol ar weithgarwch ehangach y Comisiwn.
14.2 Ystyriodd y Pwyllgor feysydd megis datgarboneiddio a'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol a oedd wedi cael eu hystyried yn llai ffurfiol yn y gorffennol ac awgrymodd y dylid rhoi sylw i feysydd yn ymwneud â phobl mewn cyfarfodydd i ddod. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai hyn gynnwys Urddas a Pharch a Chynllun y Gweithlu (yn ymwneud â risg Gallu a Chapasiti Corfforaethol). Gofynnodd hefyd am ddiweddariad ar y prosiectau ystadau yn yr hydref a nodwyd y byddai hwn yn cael ei gynnwys yn eitemau’r diweddariadau corfforaethol fel mater o drefn.
14.3 Trafododd y Pwyllgor gyfraddau ymateb Aelodau a staff cymorth ar gyfer arolygon Urddas a Pharch a gofynnodd i swyddogion rannu manylion unrhyw gamau gweithredu arfaethedig i gynyddu cyfranogiad yn y dyfodol.
14.4 Yn ystod y cyfarfod, roedd y Pwyllgor hefyd wedi gofyn am ddiweddariadau ar barhad busnes a fydd yn cael eu cynnwys yn y Diweddariad ar Lywodraethu yng nghyfarfod mis Tachwedd, a diweddariad ar y defnydd o AI a fydd yn cael ei ddarparu o dan yr eitem ar risg gorfforaethol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Camau i’w cymryd: Cynnwys yr eitemau canlynol yn y Flaenraglen Waith:
- Urddas a Pharch; a
- Chynllun y Gweithlu (yn ymwneud â'r risg Gallu a Chapasiti Corfforaethol).
15.0 Eitem lafar (dosbarthwyd Adroddiad Blynyddol ARAC y llynedd y tu allan i'r Pwyllgor cyn y cyfarfod)
14.1 Oherwydd amserlen cyfarfodydd y Comisiwn eleni, bydd Adroddiad Blynyddol ARAC yn cael ei gynhyrchu yn gynharach yn y flwyddyn nag arfer.
15.2 Trafododd y Pwyllgor y meysydd i'w cynnwys, gan ganolbwyntio ar y newidiadau llywodraethu, trefniadau archwilio mewnol, newidiadau llywodraethu prosiectau a rhaglenni, a newidiadau o ran uwch-reolwyr ar lefel y Bwrdd Gweithredol.
15.3 Hefyd, trafododd y Pwyllgor sut y gellid gwneud yr adroddiad yn ddogfen fyrrach gyda gwybodaeth atodol yn cael ei chynnwys fel atodiadau.
15.4 Oherwydd yr amserlen dynn, byddai'r Clerc a'r Cadeirydd yn croesawu sylwadau a mewnbwn y Pwyllgor drwy e-bost. Nodwyd hefyd efallai y byddai angen cymeradwyo’r adroddiad y tu allan i’r Pwyllgor os na chytunir ar ddrafft cyn y cyfarfod ar 9 Mai.
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Faterion Corfforaethol
16.0 Eitem lafar
15.1 Rhoddodd Eve Jennings ddiweddariad ar y Prosiect Pobl a Chydnabyddiaeth, gan amlygu’r cerrig milltir allweddol a’r cynnydd a oedd wedi cael ei wneud. Disgrifiodd y pontio effeithiol i system newydd Adnoddau Dynol/y Gyflogres a oedd wedi mynd yn fyw ym mis Ionawr.
16.2 Roedd arddangosiadau wedi'u cyflwyno i staff y Comisiwn fel rhan o'r prosiect, ac roedd Cymorth Busnes i’r Aelodau hefyd wedi cynnal sesiynau galw heibio i ddangos y system newydd i'r Aelodau a'u staff cymorth.
16.3 Cafwyd problem gyda'r darparwr gwasanaeth yn ymwneud â chodau cynnau Cyllid a Thollau EF ond cafodd hyn ei ddatrys mewn pryd ar gyfer y dyddiad mynd yn fyw. Roedd nifer o faterion heb eu datrys, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â Chynllun Pensiwn yr Aelodau a MyCSP, yr oedd atebion ar eu cyfer yn debygol o fod ar waith tan fis Ebrill. Gofynnodd y Pwyllgor am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhain, a gweithredu rhannau eraill o'r system yn llawn (gweler paragraff 16.4) maes o law.
16.4 Cafwyd problem gyda'r darparwr gwasanaeth yn ymwneud â chodau cynnau Cyllid a Thollau EF ond cafodd y rhain eu datrys mewn pryd cyn y dyddiad ar gyfer mynd yn fyw. Roedd gan Gynllun Pensiwn yr Aelodau a MyCSP broblemau parhaus gyda datrysiadau dros dro yn debygol o fod ar waith tan fis Ebrill.
16.5 Roedd cyfarfod i drafod y gwersi a ddysgwyd wedi'i drefnu gyda'r darparwr gwasanaeth. Roedd Efa yn gobeithio y byddai'r materion a godwyd gan y Comisiwn yn helpu prosiectau'r darparwr gwasanaeth yn y dyfodol. Roedd paratoadau ar gyfer cyflawni cam 2 o’r prosiect wedi'u datblygu'n dda. Byddai’r rhain yn cynnwys y cyfleuster i gofnodi amser hyblyg, a'r System Rheoli Dysgu.
16.6 Rhoddodd Ed (Uwch-swyddog Cyfrifol y prosiect) sicrwydd pellach ynghylch dogfennu'r materion a oedd wedi codi a'r gwersi a ddysgwyd. Cafodd Eve ei chanmol ganddo ef a’r Pwyllgor am ei gwaith a'i hymroddiad i'r prosiect hwn a diolchwyd i bawb a oedd wedi cymryd rhan. Fe ddiolchodd Eve i'r Pwyllgor am ei fewnbwn.
17.0 Item 17 - Ways of Working
Eitem lafar - mae rhai manylion yn absennol o’r cofnodion hyn am resymau cyfrinachedd masnachol
17.1 Rhoddodd Ed Williams ddiweddariad ar y Rhaglen Ffyrdd o Weithio, gan amlygu'r meysydd ffocws allweddol a'r cynnydd a wnaed. Roedd yr achos busnes amlinellol ar gyfer prosiect Bae 32 wedi'i gymeradwyo gan y Comisiwn ac roedd yr hysbysiad contract wedi'i gyhoeddi. Amlinellodd Ed hefyd yr amserlen ar gyfer y prosiect a oedd yn rhedeg ar ei hôl hi bryd hynny.
17.2 Amlinellodd Ed nifer o weithgareddau a cherrig milltir allweddol ar gyfer y misoedd i ddod. Yna, disgrifiodd yr adnoddau mewnol sydd ar waith a'r llinellau atebolrwydd clir. Ymatebodd hefyd i gwestiynau ynghylch yr adnoddau ar gyfer y prosiect a'r broses gaffael. Roedd hyn yn cynnwys ymateb i gwestiynau ynghylch cyfleoedd i gyflenwyr Cymreig, ac amrywiaeth a gwerth cymdeithasol wedi'u cynnwys yn y telerau ac amodau, a sicrhaodd Ed fod y Pwyllgor yn gweithredu yn unol â Strategaeth Gaffael y Comisiwn. Fel y trefnwyd ym mlaenraglen waith y Pwyllgor, bydd diweddariad pellach ar y prosiectau ystadau yn cael ei ddarparu yn yr hydref.
17.3 Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad manwl gan Ed ar y rhaglen hon a gofynnodd am gael gwybod am y cynnydd a wneir.
18.0 Eitem lafar
18.1 Rhoddodd Anna Daniel ddiweddariad ar y Rhaglen Ffyrdd o Weithio, gan amlygu'r meysydd ffocws allweddol a'r cynnydd a wnaed. Amlinellodd y gwaith sy'n cael ei wneud gan y gwahanol bwyllgorau, y byddai angen i'r Comisiwn ymateb iddo. Roedd hyn yn cynnwys gwaith Pwyllgor Senedd y Dyfodol, sydd i fod i gyflwyno adroddiad ym mis Mai, y Pwyllgor Busnes, Pwyllgor Biliau Diwygio’r Senedd, a’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
18.2 Rhoddodd Anna hefyd y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol a'i ddeialog barhaus â’r Comisiwn. Nodwyd y byddai'r Bwrdd yn gweithio i'w gapasiti llawn cyn hir pan fyddai recriwtio i ddwy swydd wag yn cael ei gymeradwyo. Roedd wrthi bryd hynny yn ymgynghori ar gymorth i’r Aelodau a fydd yn gadael eu swydd yn yr etholiad nesaf, ac roedd wedi bod yn ymgysylltu ag Aelodau a'u staff cymorth ar ei adolygiad cyflog a graddfeydd mewn perthynas â fframwaith ar gyfer rolau swyddi yn y dyfodol. Dywedwyd y byddai ymgynghoriad llawn yn dilyn ac y byddai hyn yn pennu cyfanswm y lwfans a ddarperir ar gyfer y Seithfed Senedd. Roedd swyddogion yn asesu'r risgiau o ran cefnogi Aelodau drwy'r newidiadau hyn.
18.3 O ran y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Comisiwn, tynnodd Anna sylw at y strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu, cynlluniau pontio ar gyfer etholiadau, sesiynau briffio rheolaidd i’r Comisiwn ar gyflawni Rhaglen y Seithfed Senedd, a pharodrwydd busnes. Roedd hyn yn cynnwys adolygu'r tybiaethau cyffredin a chynllunio senarios manwl.
18.4 Croesawodd y Cadeirydd yr awgrym i rannu dogfennaeth ychwanegol â’r Pwyllgor. Cytunodd Anna i ystyried beth a allai fod yn fuddiol i’w rannu y tu hwnt i'r diweddariadau corfforaethol llafar a diweddariadau risg ym mhob cyfarfod, a dangosfwrdd y Bwrdd Newid sy’n cael ei rannu â’r Pwyllgor yn rheolaidd, a nododd y byddai'n trafod y mater â'r Cadeirydd.
Eitem lafar
19.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall.
Nodwyd y byddai sesiwn breifat gyda Lee Glover, Pennaeth Archwilio Mewnol ac aelodau'r Pwyllgor yn cael ei haildrefnu.
Mae’r cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 9 Mai 2025.